Pan orfodwyd y wlad i gyd i gyfnod dan glo fis Mawrth diwethaf, bu rhoi’r gorau i weithgareddau wyneb yn wyneb yn dipyn o her i Sefydliad y Cadetiaid Awyr.
Yn sgil y clo, gorfodwyd Sefydliad y Cadetiaid Awyr i feddwl am ffordd newydd o weithio’n ddigidol, gyda chefnogaeth Microsoft Teams.
Manteisiodd llawer o oedolion sy’n gwirfoddoli yn Adain Gymreig Rhif 1 ar y cyfle hwn i sbarduno’r sefydliad yn ei flaen trwy greu offer cydweithredol er mwyn cyflwyno’r cyfleoedd dysgu gorau posibl i’r cadetiaid.
Er bod y rhan fwyaf o’r staff sy’n oedolion yn rhan o’r ymgyrch ddigidol hon, roedd rhai ohonynt yn ysgogwyr allweddol i’w llwyddiant. Mae’r 17 unigolyn hyn wedi cael eu cydnabod yn y rownd ddiweddaraf o Glod i Reolwyr Awyr y Cadetiaid Awyr am eu gwaith rhagorol yn ystod y pandemig ac am wasanaeth ffyddlon arall.
Dyfarnwyd Tystysgrif Gwasanaeth Clodwiw i’r canlynol. Yn nhrefn yr wyddor:
Awyr-lefftenant Thomas Beach – Sgwadron 1223 (Caerffili)
Awyr-lefftenant Huw O’Connell – Sgwadron 30F (Dinas Llandaf)
Swyddog Hedfan Gareth Jenkins – Sgwadron 277 (Y Coed Duon)
Swyddog Gwarant Garry Atkinson – Sgwadron 1223 (Caerffili)
Swyddog Gwarant Christopher Batten – Sgwadron 2167 (Tredegar)
Swyddog Gwarant Andrew Davies – Sgwadron 2308 (Cwmbran)
Swyddog Gwarant Byron Gwillym – Sgwadron 2308 (Cwmbran)
Swyddog Gwarant Jo Holley – Sgwadron 275 (Nant-y-glo a Blaenau)
Swyddog Adain Parfitt – Sgwadron 2167 (Tredegar)
Awyr-Ringyll Matthew Hackett – Sgwadron 2077 (Pont-y-clun)
Awyr-Ringyll Josh Price – Sgwadron 415 (Merthyr Tudful)
Awyr-Ringyll Richard Renshaw – Sgwadron 1367 (Caerllion)
Rhingyll Martin Edwards – Sgwadron 415 (Merthyr Tudful)
Rhingyll Glover – Sgwadron 1367 (Caerllion)
Rhingyll Alex Jones – Sgwadron 30F (Dinas Llandaf)
Hyfforddwr Sifil Owen Fry – Sgwadron 1367 (Caerllion)
Cadeirydd y Pwyllgor Sifil Mr K Read – Sgwadron 277 (Y Coed-duon)
Dywedodd yr Asgell-gomander Bob Timothy “Mae’r tystysgrifau hyn yn cydnabod yr ymdrech eithriadol y mae ein staff wedi ei gwneud yn ystod y pandemig. Maent i gyd wedi wynebu heriau ac ansicrwydd wrth weithredu yn y byd rhithwir ac rwy’n falch bod Cadlywydd RAFAC wedi eu hanrhydeddu fel hyn. ”