Mae Cadetiaid y Môr wedi cyhoeddi astudiaeth effaith ‘aml-genhedlaeth’ ar ôl cyfranogiad gan dros 3,000 o gyn-gadetiaid yn dyddio’n ôl cyn belled â dechrau’r Ail Ryfel Byd.
Rydym yn gwybod ers tro effaith mor bositif y mae Cadetiaid y Môr yn ei chael ar gadetiaid, a gadarnhawyd gan yr asesiad o effaith yn 2018, ond penderfynodd Cadetiaid y Môr gomisiynu astudiaeth genedlaethol ar yr effaith hirdymor – a yw bod yn gadét yn newid gweddill eich bywyd?
Cymerodd dros 3,000 o gyn-gadetiaid ran mewn arolygon a chyfweliadau, gan arwain at gyhoeddi adroddiad ym mis Ionawr 2021 – y cyntaf o’i fath yn y sector ieuenctid!
Yn ôl yr adroddiad, nid yn unig mae bod yn aelod o Gadetiaid y Môr yn llawn antur a hwyl ac yn agor byd o gymwysterau newydd, mae hefyd yn eich newid am byth. Mae bod yn gadét môr yn eich gwneud yn fwy hyderus, annibynnol a phositif.
– cadarnhaodd 95% bod Cadetiaid y Môr wedi cael effaith bositif ar eu bywydau, am hir ar ôl iddynt adael
– cadarnhaodd 80% bod Cadetiaid y Môr wedi datblygu eu hannibyniaeth a’u sgiliau
– cadarnhaodd 70% bod Cadetiaid y Môr wedi gwella eu gallu i ymdopi â heriau
I weld yr adroddiad llawn, cliciwch yma
I weld yr adroddiad ‘uchafbwyntiau’, cliciwch yma