Mae’r Llyngesydd Tony Radakin, Prif Arglwydd y Morlys a Phennaeth Staff Morwrol y Llynges wedi siarad ag aelodau Clwb Busnes Caerdydd fel rhan o daith rithwir wib o amgylch Cymru.

Wrth siarad yn y digwyddiad, a gefnogwyd gan Gymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru, soniodd y Llyngesydd Radakin, pennaeth y Llynges Frenhinol, am ei yrfa forwrol drawiadol, a ddechreuodd ym 1990 ac sydd wedi cynnwys dyletswyddau diogelu yn y Falklands, ymgyrchoedd embargo NATO yn yr Adriatig a thair ymgyrch fel comander yn Irac.

Tynnodd sylw at nodau’r Llynges Frenhinol ar gyfer y dyfodol hefyd ac aeth i’r afael â chwestiynau gan fynychwyr am oblygiadau Brexit a COVID.

Dywedodd y Llyngesydd Radakin, a nododd fod canran recriwtiaid y Llynges o Gymru yn uwch nag o unrhyw rannau eraill o’r DU: “Mae’r Llynges Frenhinol heddiw yn teimlo’n wahanol iawn i’r Llynges Frenhinol y gwnes i ymuno â hi. Mae’n hanfodol wrth edrych tua’r dyfodol bod y Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr yn gweithio gyda’i gilydd ym meysydd y gofod a seiber i fynd i’r afael â’r her gyson gan wladwriaethau fel Rwsia, Iran a Gogledd Corea. Mae angen i’r Lluoedd Arfog fod yn fwy gweithredol ac adlewyrchu buddiannau Prydain mewn ffordd amlwg a rhwystro ansefydlogrwydd cyn iddo ddechrau troi’n wrthdaro.”

Wrth siarad am ddyfodol y Llynges Frenhinol yn dilyn setliad ariannu aml-flwyddyn ar gyfer maes amddiffyn, dywedodd y Llyngesydd Radakin: “Yn flaenorol, rydym wedi rheoli maes amddiffyn ar gyllideb o flwyddyn i flwyddyn, ond nawr rydym wedi cael cynllun pedair blynedd. Ein nodau allweddol yn ystod y cyfnod hwn yw cryfhau ein sefyllfa yng Ngogledd yr Iwerydd, gwneud ein llongau awyrennau a’n jetiau a’r Morlu Brenhinol anhygoel yn fwy hyblyg i’w lleoli, cynyddu ein fflyd ffrigadau a llongau rhyfel bach fel bod ganddynt fwy o bresenoldeb ledled y byd, croesawu technoleg ac arloesi mewn ffordd lawer cryfach nag a wnaethpwyd o’r blaen a dod yn Llynges fyd-eang i gystadlu’n fyd-eang, i yn unol â gweledigaeth y Prif Weinidog.”

Wrth ymateb i gwestiynau ynghylch Brexit a COVID, dywedodd y Llyngesydd Radakin fod gadael yr UE wedi tarfu llai ar y Llynges na busnesau, gan gynnwys aelodau Clwb Busnes Caerdydd, a phobl yn y sector addysg a sectorau eraill, a’i fod yn falch iawn o’r rhan y mae’r Llynges wedi’i chwarae wrth ymateb i’r pandemig. Soniodd hefyd am fwriad y Llynges i ddyblu ei chynrychiolaeth BAME a benywaidd erbyn 2030.

Cofrestrwch heddiw

Rhowch eich manylion isod i gael y wybodaeth ddiweddaraf am RFCA dros Gymru