Yn ddiweddar, ymunodd y Farwnes Goldie, Gweinidog Gwladol yn y Weinyddiaeth Amddiffyn, â seremoni wobrwyo rithwir Cadetiaid Awyr yr Awyrlu Brenhinol i enillwyr cystadleuaeth Cymru a Brwydr Prydain.
Ynghyd â Swyddog Awyr Cymru, y Comodor Awyr Adrian Williams a Phrif Swyddog Rhanbarthol Cadetiaid Awyr RAF Cymru a’r Gorllewin, Roger Simon, canmolodd y Farwnes ymroddiad a sgil ymgais fuddugol pob cadét awyr.
Dywedodd y Comodor Awyr Williams a oedd yn un o’r beirniaid a sefydlydd y gystadleuaeth, “Rydw i wedi rhyfeddu at safon y ceisiadau ac roedd dewis yr enillwyr yn dasg anodd”
Roedd y gystadleuaeth yn agored i bob cadét awyr yng Nghymru (rhan o Ranbarth Cymru a’r Gorllewin) a rhoddodd gyfle iddynt ymchwilio a pharatoi darn o waith a oedd yn ymwneud â’r pwnc “Cymru a Brwydr Prydain”.
Y beirniaid oedd Swyddfa Awyr Cymru, y Capten Grŵp Roger Simon, Prif Swyddog Rhanbarthol Cymru a’r Gorllewin, Cadetiaid Awyr yr Awyrlu Brenhinol, Peter Sinclair, Arweinydd Sgwadron RFCA Gogledd Cymru a Tim Jenkins, Urdd Artistiaid Hedfan.
Mae’r enillwyr fel a ganlyn:
Grŵp 12-16 oed:
Cymru a Hanes Brwydr Prydain
Cadet Emily Harries, Sgwadron 2480 (Treffynnon), Adain Rhif 2 Cymru
Awyrennau Model Brwydr Prydain
Cadet Luke Unsworth, Sgwadron 1378 (Yr Wyddgrug), Adain Rhif 2 Cymru
Cymru a Chelf Brwydr Prydain
Rhingyll Cadet Mia Jones, Sgwadron 1465 (Gwynedd), Adain Rhif 2 Cymru
Cymru a Llenyddiaeth Brwydr Prydain
Cadet Eagle, Sgwadron 1358 (Pontardawe), Adain Rhif 3 Cymru
Cymru a Cherddoriaeth Brwydr Prydain
Cyd-fuddugol
Cadet Kevin Titus, Sgwadron 30F (Llandaf), Adain Rhif 1 Cymru a’r Corporal Cadet Ifan Rhys Hughes, Sgwadron 1310 (Eryri), Adain Rhif 2 Cymru
Grŵp 17-20 oed:
Cymru a Hanes Brwydr Prydain
Sarjant Awyr Cadet Thomas Stenson, Sgwadron 2012 (Cil-y-coed), Adain Rhif 1 Cymru
Cymru ac Awyrennau Model Brwydr Prydain
Sarjant Awyr Cadet O’Beake, Sgwadron 1054 (Llanelli), Adain Rhif 3 Cymru
Cymru a Chelf Brwydr Prydain
Rhingyll Cadet Millie Davies, Sgwadron 30F (Llandaf), Adain Rhif 1 Cymru
Cymru a Llenyddiaeth Brwydr Prydain
Rhingyll Cadet Harry Lancaster, Sgwadron 30F (Llandaf), Adain Rhif 1 Cymru
Cymru a Cherddoriaeth Brwydr Prydain
Corporal Cadet C Young, Sgwadron 1358 (Pontardawe), Adain Rhif 3 Cymru
Llongyfarchiadau i chi gyd